Andy Goldsworthy
Oddi ar Wicipedia

Y Neuberger Cairn (2001), cerflun parhaol yn y Neuberger Museum of Art, Efrog Newydd.
Cerflunydd, ffotograffydd ac amgylcheddwr ydy Andy Goldsworthy (ganwyd 26 Gorffennaf 1956, Swydd Gaer). Mae'n byw yn yr Alban ac yn cynhyrchu arlunwaith ar gyfer lleoliadau a thirwedd penodedig mewn safleoedd naturiol a dinesig. Mae ei waith yn cynnwys deunyddiau naturiol ac wedi eu canfod i greu cerfluniau parhaol a dros-dro sy'n tynnu at gymeriad eu amgylchedd.