Aneurin Bevan
Oddi ar Wicipedia
Gwleidydd Llafur oedd Aneurin 'Nye' Bevan (15 Tachwedd 1897 - 6 Gorffennaf 1960). Bu'n aelod seneddol dros y Blaid Lafur, yn etholaeth Glynebwy o 1929 tan 1960. Roedd yn arwr i'r chwith gwleidyddol, yn arbennig am ei weithgarwch yn sefydlu y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG). Roedd yn areithiwr huawdl iawn er fod ganddo atal dweud pan yn ifanc. Fe ddaeth yn gyntaf mewn arolwg o arwyr Cymru.
[golygu] Ieuenctid
Ganwyd Bevan yn Nhredregar yn fab i lowr a Bedyddiwr, David Bowen. Roedd ei fam yn Fethodist. Yn un o ddeg o blant ni chafodd fawr o lwyddiant yn yr ysgol. Yn dair ar ddeg oed aeth i weithio yn y pwll glo lleol. Rhyddfrydwr oedd ei dad pan yn ifanc ond yn ddiweddarach ymunodd â'r Blaid Lafur Annibynnol.
[golygu] Llywodraeth
Roedd etholiad cyffredinol 1945 yn lwyddiant ysgybol i'r Blaid Lafur, gan eu galluogi i greu diwygiad cymdeithasol. Clement Atlee oedd y Prif Weinidog newydd, ac fe apwyntiodd Aneurin Bevan yn Ysgrifenydd Gwladol dros Iechyd. Fe'i heriwyd i greu Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a arianwyd gan drethi, er mwyn darparu gwasanaeth safonol i'r boblogaeth am ddim. Daeth y Gwasanaeth i fodolaeth ar y 5 Gorffennaf, 1948. Fe wladolwyd 2,688 o ysbytai yng Nghymru a Lloegr, a daethant dan orychwyliaeth Bevan. Ar yr un pryd, roedd yn gyfrifol am dai - a oedd yn bwnc problemus yn sgil dinistr yr Ail Ryfel Byd.
Yn 1951, fe'i ostyngwyd i fod yn Weinidog Llafur, ond yn fuan iawn fe ymddiswyddodd mewn safiad yn erbyn cyflwyniad taliadau presgripsiwn ar gyfer dentyddiaeth a sbectol.