Antony Carr
Oddi ar Wicipedia
Hanesydd sy'n arbenigo ar hanes Cymru yn yr Oesoedd Canol yw Antony D. Carr (ganed 1938). Mae'n briod â'r hanesydd llên Glenda Carr.
Treuliodd ei flynyddoedd cynnar yn Ynysoedd y Falklands ac ar ôl hynny ym Mauritius. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Biwmares a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Graddiodd gyda gradd BA Hanes ym 1959. Ym 1963 cafodd ei radd MA am astudiaeth o uchelwyr Edeirnion rhwng 1282 a 1485. Enillodd PhD ym 1976 am ei draethawd ar deulu'r Mostyniaid a'u hystadau yng Ngogledd Cymru rhwng 1200 a 1642. Ym 1964 ymunodd â staff Adran Hanes a Hanes Cymru CPGC Bangor lle daeth yn uwch ddarlithydd Hanes Cymru yn nes ymlaen ac yna yn Athro Hanes Cymru'r Oesoedd Canol. Ymddeolodd yn 2002.
[golygu] Llyfryddiaeth
Yn ogystal â nifer o erthyglau ar hanes Cymru yn yr Oesoedd Canol mewn cylchgronau hanes, mae'n awdur :
- Llywelyn ap Gruffudd (Cyfres ddwyieithog Gŵyl Dewi, Gwasg Prifysgol Cymru, 1982)
- Medieval Anglesey (Llangefni, 1982). Hanes safonol Ynys Môn yn yr Oesoedd Canol.
- Owain of Wales: the end of the House of Gwynedd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1991). Y llyfr safonol ar hanes bywyd Owain Lawgoch.