Argoed, Sir y Fflint
Oddi ar Wicipedia
Cymuned yn Sir y Fflint yw Argoed, a elwir hefyd yn Mynydd Isa. Saif rhwng Yr Wyddgrug a Bwcle, ac mae'n cynnwys pentref Mynydd Isa. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 5,888.
Ceir rhan o Glawdd Wat yn croesi'r gymuned. Arferai'r diwydiant glo fod yn bwysig yma, gyda chloddio o'r 17eg ganrif ymlaen. Bu trychineb yng Nglofa Argoed yn 1837, pan laddwyd ugain o weithwyr, yn cynnwys tad a dau frawd y nofelydd Daniel Owen.