Arminiaeth
Oddi ar Wicipedia
Mae Arminiaeth yn gred neu athroniaeth Gristnogol a seilir ar ddysgeidiaeth Jacobus Arminius (1569-1609), gweinidog Prostestanaidd o'r Iseldiroedd.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanfod Arminiaeth
Ar sawl ystyr Arminiaeth yw'r gwrthwyneb i Galfiniaeth. Yn ôl Arminiaeth mae gan ddyn ewyllys rhydd i ennill ei iachawdwriaeth, tra fod dysgeidiaeth Calfin yn honni fod dyn yn dyngedig o'i enedigaeth naill ai i fynd i Baradwys neu i ddamnedigaeth dragwyddol.
[golygu] Yr Iseldiroedd
Roedd yr ymgecru rhwng dilynwyr y ddwy athroniaeth hyn yn arbennig o ffyrnig yn ystod yr 17eg ganrif yn yr Iseldiroedd. Wedi marw Arminius yn 1609 arweinwyd ei ddisgyblion gan Simon Episcopius a dechreuwyd eu galw yn Wrthdystwyr (Remonstrants). Methodd y ddwy blaid gytuno ac yn 1618, yn Synod Dort, cafodd dysgeidiaeth yr Arminiaid ei chondemnio'n swyddogol gan y sefydliad eglwysig Protestanaidd yn y Nederlands a chafodd nifer ohonynt eu carcharu mewn canlyniad.
[golygu] Cymru a Lloegr
Ymledodd yr anghydfod i Gymru a Lloegr a pharhaodd yn asgen gynnen hyd y 19eg ganrif. Pregethai John Wesley (1703-1791) Arminiaeth ac fe'i wrthwynebwyd gan George Whitefield (1714-1770) ar ran y Calfiniaid. Gwelwyd yr ymgecru ar ei waethaf yng Nghymru rhwng y Methodistiaid a'r sectau ymneilltuol eraill, yn arbennig y Wesleiaid.