Arpino
Oddi ar Wicipedia
Comune (ardal drefol) yn nhalaith Frosinone yn Latium, canolbarth yr Eidal yw Arpino, neu Arpinum yn y cyfnod Rhufeinig. Sefydlwyd Arpino yn y 7fed ganrif CC, a bu'n eiddo i'r Volsciaid a'r Samnitiaid cyn cael ei chipio gan y Rhufeiniaid yn 305 CC a'i gwneud yn civitas sine suffragio (dinas heb bleidlais). Rhoddwyd y bleidlais iddi yn 188 CC a chafodd statws municipium yn 90 CC.
Mae Arpino yn nodedig fel man geni dau o enwogion Rhufain, y cadfridog a gwleidydd Gaius Marius a'r cyfreithiwr, areithydd ac awdur Marcus Tullius Cicero.
Yn 2004, roedd gan y comune boblogaeth o 7,736.