Bachwen (siambr gladdu)
Oddi ar Wicipedia
Mae Bachwen yn siambr gladdu o'r cyfnod Neolithig gerllaw Clynnog Fawr yng Ngwynedd.
Nid oes sicrwydd ynglyn â sut i ddosbarthu'r siambr gladdu yma, ond credir ei bod yn siambr porth. Bu cloddio yma yn 1876 ond nid oes cofnod i lawer gael ei ddarganfod. Nodwedd fwyaf diddorol Bachwen yw y marciau sydd wedi eu cerfio ar ran uchaf y maen capan, er bod y cen ar y maen yn eu gwneud yn anodd i'w gweld.
Gellir cyrraedd at y siambr gladdu trwy gymeryd y llwybr sy'n arwain hebio ochr ddeheuol eglwys Clynnog, troi i'r dde wedi cyrraedd y ffordd, ac yna dilyn llwybr ar y chwith gyferbyn a fferm Bach-wen ei hun.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Lynch, Frances (1995) Gwynedd (A guide to ancient and historic Wales) (Llundain:HMSO) ISBN: 0-11-701574-1