Baldwin, Archesgob Caergaint
Oddi ar Wicipedia
Prelad o Sais o dras Normanaidd oedd Baldwin, Archesgob Caergaint (m. 1190). Fe'i ganwyd yn Exeter i deulu mewn amgylchiadau digon cyfyng. Cafodd ei benodi yn esgob Caerwrangon yn 1180 ac yna'n archesgob Caergaint yn 1184. Coronodd y brenin Rhisiart I o Loegr.
Mae Baldwin yn fwyaf adnabyddus yng Nghymru am iddo deithio yng nghwmni Gerallt Gymro ar ei daith trwy Gymru yng ngwanwyn a haf y flwyddyn 1188. Pwrpas swyddogol y daith enwog honno oedd i berswadio'r Cymry a'u cymdogion Normanaidd i fynd ar groesgad i'r Tir Sanctaidd, ond digon tila fu'r ymateb gan y Cymry a Normaniaid hirben. Cafodd Baldwin ei hun ei ladd ym Mhalesteina yn 1190, wedi mynd allan i gefnogi'r Croesgadwyr.