Bangkok
Oddi ar Wicipedia

Bangkok, a elwir yn Krung Thep yn yr iaith Thai (กรุงเทพฯ), ydy prifddinas Gwlad Thai a dinas fwyaf y wlad. Yn ôl ystadegau swyddogol cyfrifiad 2000, roedd poblogaeth o 6,355,144 yno. Lleolir Bangkok ar 13°45′Gogledd 100°31′Dwyrain. Sefydlwyd y ddinas ar lan ddwyreiniol afon Chao Praya, ger Gwlff Gwlad Thai.
[golygu] Hanes
Krung Thep yw enw iaith y ddinas ers dwy ganrif a mwy. Nid hi oedd prifddinas wreiddiol Gwlad Thai; yn wir, tan y 18fed ganrif, fe'i lleolid ar lan gorllewinol yr afon yn Thonburi ac yn nifer o leoedd eraill yn y Deyrnas cyn hynny. Erbyn hyn, mae'r ddwy ddinas wedi tyfu'n un a chyfeirir atynt fel Krung Thep.
[golygu] Bangkok heddiw
Mae Bangkok wedi tyfu'n gyflym, yn economaidd ac yn ddiwylliannol ac mae bellach yn un o ganolfannau pwysicaf De-ddwyrain Asia. Mae Sefydliad Meterologaidd y Byd wedi galw Bangkok yn ddinas fawr boethaf y blaned. Ar ben hyn, Bangkok yw un o atyniadau twristaidd mwyaf poblogaidd y byd a'r ddinas gyfoethocaf a mwyaf poblog yng Ngwlad Thai. Daw yn yr ail safle ar hugain o ran dinasoedd mwyaf poblog y byd.