Bargoed
Oddi ar Wicipedia
Bargod |
|
Mae Bargod (defnyddir yr enw Bargoed gan siaradwyr Cymraeg hefyd) yn dref ar lan afon Rhymni i'r gogledd o Gaerffili ym Morgannwg, Cymru. Fe'i gweinyddir fel rhan o fwrdeistref sirol Caerffili. Mae marchnad wythnosol yn y dre.
Yn wreiddiol roedd yn dref farchnad wledig, ond tyfodd i fod yn dref sylweddol yn dilyn agor pwll glo yn 1903. Caeodd y pwll glo yn ystod y 1980au, ac mae'r safle nawr yn gartref i barc gwledig.
Ganwyd y cyfansoddwr enwog Alun Hoddinott ym Margoed yn 1929.
Trefi a phentrefi Caerffili |
Abertridwr | Bargoed | Bedwas | Caerffili | Cefn Bychan | Y Coed-Duon | Rhisga | Rhymni | Trecelyn | Ystrad Mynach |