Beatrix, brenhines yr Iseldiroedd
Oddi ar Wicipedia
Brenhines bresennol yr Iseldiroedd yw Beatrix, Brenhines yr Iseldiroedd (ganwyd 31 Ionawr 1938). Esgynnodd hi i'r orsedd yn 1980 ar ymddiswyddiad ei mam, Brenhines Juliana. Hi yw trydedd frenhines yr Iseldiroedd yn olynol ers 1890, ar ôl ei nain Wilhelmina a'i mam Juliana. Mae'n debyg mai ei mab, Willem-Alexander, yn ei dro, fydd y brenin cyntaf ers i Gwilym III farw yn 1890.
[golygu] Bywyd cynnar
Merch hynaf i Frenhines Julian a Thywysog Bernhard, ganwyd Beatix yn Baarn yn 1938. Mae ganddi dair chwaer, Irene (ganwyd 1939), Margriet (1943) a Christina (1947). Goresgynwyd yr Iseldiroedd gan luoedd yr Almaen ddwy flynedd a hanner ar ôl ei genedigaeth ar 10 Mai 1940. Ynghyd â'i mam Juliana a'i chwaer Irene, diangodd hi dros Loegr i Ganada, lle treuliodd hi'r Ail Ryfel Byd. Treuliodd ei thad, Tywysog Bernard, ran fwya'r rhyfel yn Llundain gyda Brenhines Wilhelmina. Dychwelodd y teulu i'r Iseldiroedd yn yr haf o 1945, gyda merch newydd Margriet oedd wedi cael ei geni yng Nghanada. Daethant i fyw ym mhalas Soestdijk ger Baarn.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.