Bill McLaren
Oddi ar Wicipedia
Cyn sylwebydd Albanaidd yw Bill McLaren (ganwyd 1923, Hawick) a adnabyddwyd fel 'llais rygbi' ar draws y byd hyd ei ymddeoliad yn 2002.
Roedd yn chwaraewr galluog yn safle'r Blaenasgellwr ar y cae, chwaraeodd dros dîm 'Hawick first XV' cyn yr Ail Ryfel Byd pan wasanaethodd yn y Royal Artillery yn yr Eidal.
Cafodd dreial ar gyfer tîm cenedlaethol yr Alban yn 1947, roedd ar fin cael ei gap cyntaf pan ddisgynodd yn sâl gyda tuberculosis a fu bron iw ladd a gorfodwyd ef i rhoi'r gorau ar chwarae. Gwariodd 19 mis mewn sanitaorium cyn derbyn cyffur arbrofol a achubodd ei fywyd.
Astudiodd McLaren ymarfer corff yn Aberdeen, a bu'n dysgu mewn amryw o ysgolion ogwmpas Hawick hyd 1987, gan hyfforddi nifer o chwaraewyr a aeth ymlaen i chwarae dros yr Alban megis Jim Renwick, Colin Deans a Tony Stanger.
Trwy ei adroddiadau ar y gemau iau ar gyfer bapur y 'Hawick Express' llwyddodd i lawnsio ei hun i yrfa sylwebaeth, gan wneud hynnu yn genedlaethol am y tro cyntaf ar Radio'r BBC yn 1953, pan gurwyd yr Alban 12-0 gan Gymru.
Aeth ymlaen i sylwebu ar y teledu chwe mlynedd yn ddiweddarach. Derbynodd adnabyddiaeth o'i gyfraniad ym mis Tachwedd 2001 pan ddaeth ef y cyntaf nad oedd yn rhyngwladol i gael ei sefydlu yn yr International Rugby Hall of Fame.