Blagoevgrad
Oddi ar Wicipedia
Tref yn ne-orllewin Bwlgaria a chanolfan weinyddol yr ardal o'r un enw yw Blagoevgrad (Bwlgareg Благоевград, Twrceg Yukarı Cuma). Saif ar lannau Afon Blagoevgradska Bistritsa. Mae ganddi boblogaeth o dua 76,000. Ei enw gwreiddiol oedd Gorna Dzhumaya (Горна Джумая). Fe'i hailenwyd yn 1950 ar ôl sylfaenydd Plaid Gomiwnyddol Bwlgaria, Dimitar Blagoev. Cadwyd yr enw hyd yn oed ar ôl cwymp Comiwnyddiaeth yn hytrach na dychwelyd i enw o darddiad Twrceg ar gyfer y dref.
[golygu] Gefeilldrefi
|