Bloody Sunday Derry 1972
Oddi ar Wicipedia

Murlun yn y Bogside, Belffast, yn dangos y Tad Daly yn ceisio arwain protestwyr clwyfedig i ddiogelwch
Dyma'r enw a roddir ar yr hyn a ddigwyddodd yn Derry, Gogledd Iwerddon, ar ddydd Sul, 30 Ionawr 1972.
Saethwyd 26 o brotestwyr hawliau sifil gan filwyr Prydeinig. Lladdwyd 13, 6 ohonynt yn blant, ar y dydd gydag un arall yn marw bedwar mis yn ddiweddarach o ganlyniad i anafiadau gafwyd yn y digwyddiad. Tystiodd pobl a welodd y digwyddiad, gan gynnwys gohebwyr, fod pawb a saethwyd heb arfau. Roedd pum o'r rhai a glwyfwyd wedi cael eu saethu yn eu cefn.