Brasília
Oddi ar Wicipedia
Brasília yw prifddinas Brasil a'r dalaith Brasilia.
Lleolir y ddinas ar lwyfandir canolbarth Brasil.
Cafodd y syniad o gael prifddinas yng nghanol y wlad ei grybwyll am y tro cyntaf yn 1789, ond bu rhaid aros tan 1956 i wireddu'r breuddwyd pan ddewiswyd y safle presennol ar gyfer dinas newydd sbon yn brifddinas i'r wlad.
Agorwyd y safle yn swyddogol yn 1961. Y prif bensaer oedd Oscar Niemeyer a Lucio Costa oedd y prif gynllunydd.
Mae'r adeiladau modern hardd yn Brasília yn cynnwys Adeilad y Gyngres a'r eglwys gadeiriol. Agorwyd y brifysgol yn 1962.