Brenhinllin y Qin
Oddi ar Wicipedia
Pumfed frenhinllin fawr Tsieina, yn dilyn brenhinllinoedd y Xia, y Shang, Brenhinllin Zhou Gorllewinol a Brenhinllin Zhou Dwyreiniol. Rheolodd y Qin Tseinia rhwng 221 a 207 C.C..
Dim ond dau ymerodr Qin a reolodd:
- Qin Shi Huang, "Yr Ymerodr Cyntaf", enw bedydd Ying Zheng (teyrnasodd 221-210 C.C.).
- "Yr Ail Ymerodr" (ei unig deitl swyddogol), enw bedydd Hu Hai (teyrnasodd 209-207 C.C.).
Er mai byr oedd parhâd y Qin mae eu teyrnasiad yn beysig iawn yn hanes Tsieina oherwydd nhw a sefydlodd o'r ymerodraeth o'r newydd yn sgîl y cyfnod cythryblus o anhrefn a rhyfel a elwir Cyfnod y Gwladwriaethau Rhyfelgar ("The Warring States Period" yw'r ymadrodd Saesneg arferol). O gyfnod y Qin ymlaen atgyfnerthwyd Mur Mawr Tsieina yn gyson. Y Qin hefyd a greodd yr amgylchiadau angenreidiol o heddwch a sefydlogrwydd ar gyfer blodeuo iaith a diwylliant Tseinia a chychwyn cyfnod Clasurol yn ei hanes.
[golygu] Llyfryddiaeth
- K.C. Latourette, The Chinese: their history and culture (Llundain, 1964)
- William Watson, Early Civilization in China (Llundain, 1966)