Cookie Policy Terms and Conditions Britheg y gors - Wicipedia

Britheg y gors

Oddi ar Wicipedia

Britheg y gors

Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Nymphalidae
Genws: Euphydryas
Rhywogaeth: E. aurinia
Enw deuenwol
Euphydryas aurinia
(Rottemburg, 1775)

Glöyn byw Ewropeaidd yw Britheg y Gors (Euphydryas aurinia), ac mae dan fygythiad a'i niferoedd yn lleihau’n gyflym yn y DU. Mae gyda'r oedolion farciau trawiadol aur ac orengoch a gwythiennau duon. Ar ochr isaf yr adenydd mae patrwm gyda gyda melyn , oren a du heb unrhyw arlliw o arian o gwbl. Mae marciau arian o dan yr adenydd o bob math o frithion eraill yng Nghymru.

Mae De Cymru yn un o brif gadarnleoedd y rhywogaeth yn Ewrop. Mae rhai poblogaethau yn bodoli yn y gogledd hefyd. Fel arfer mae Britheg y Gors i’w chael mewn glaswelltiroedd llaith a grugog a elwir Porfeydd Rhos ond mae'r rhywogaeth yn bodoli mewn mathau eraill o gynefinoedd sy'n sychach, fel glaswelltiroedd niwtral neu laswelltiroedd calchaidd sych. Gellir gweld poblogaethau bach weithiau mewn nifer o fannau lle nad oes llawer o fwyd planhigion i’w gael. Gall poblogaethau bach fod yn elfen bwysig o'r ecoleg a'r deinameg poblogaeth oherwydd gallant gynhyrchu llawer o unigolion symudol, sy'n gallu sefydlu poblogaethau eraill.

Mae Britheg y Gors yn cael ei diogelu dan gyfraith Prydain. Mae wedi’i rhestru yn rhestr warchodedig Atodiad 5 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.

Mae’r pili palod yn hedfan o ganol Mai tan Fehefin. Dodwyir yr wyau mewn grwpiau ar ochr isaf dail y planhigyn bwyd, Tamaid y Cythraul (Succisa pratensis). Mae’r lindys ifanc yn byw mewn gweoedd cyffredin a nyddant dros y planhigyn bwyd. Yn yr hydref maent yn nyddu gweoedd cryfach lle byddant yn dechrau gaeafgysgu.

Yn y gwanwyn bydd y lindys yn dechrau gwasgaru, ar ôl y bwrw croen terfynol. Byddant wedi newid o liw brown i ddu. Gellir eu gweld yn torheulo weithiau. Mae rhaid iddynt fod yn gynnes i fwyta.

Mae gwaith ymchwil i ddeinameg poblogaeth Britheg y Gors wedi dangos ei bod yn byw mewn “metaboblogaethau”. Diffinnir Metaboblogaeth fel “casgliad o boblogaethau lleol, sy’n dod i gysylltiad â’i gilydd o ganlyniad i wasgaru achlysurol. O fewn y rhain bydd rhai yn diflannu a chlystyrau eraill yn cael eu sefydlu.”

Fel arfer mae Brith y Gors yn byw mewn poblogaethau bach sy’n dueddol o farw allan ac yna bydd poblogaethau eraill yn cael eu sefydlu o safleoedd cyfagos. Elfen bwysig iawn yn y gyfyndrefn o fetaboblogaethau yw y bydd ardaloedd o gynefin gwag yn bodoli bob amser o fewn y gyfundrefn. Mae’n bosib i’r rhan fwyaf o’r darnau cynefin fod yn wag. Mae diogelu safleoedd addas lle nad yw’r pili pala’n bresennol yn hanfodol i’w goroesiad yn y tymor hir.

Static Wikipedia 2008 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -

Static Wikipedia 2007 (no images)

Static Wikipedia 2006 (no images)

aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu