Brych y Coed
Oddi ar Wicipedia
- Am y glöyn byw, gweler Gweirlöyn Brych
Brych y Coed | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
![]() |
||||||||||||||
Dosbarthiad gwyddonol | ||||||||||||||
|
||||||||||||||
Enw deuenwol | ||||||||||||||
Turdus viscivorus Linnaeus, 1758 |
Mae Brych y Coed neu Tresglen (Turdus viscivorus) yn aelod o deulu'r Turdidae. Mae'n aderyn cyffredin ac adnabyddus trwy Ewrop a rhan sylweddol o Asia.
Mae Brych y Coed yn edrych yn debyg iawn i'r Fronfraith ar yr olwg gyntaf, ond mae yn aderyn mwy na'r Fronfraith ac yn edrych yn fwy llwyd ar y pen a'r cefn a llai o liw browngoch ar y fron. Nid yw'n aderyn mudol fel rheol, ond mae adar sy'n nythu yn y gogledd yn symud tua'r de yn y gaeaf. Yn y gaeaf maent weithiau yn dod at ei gilydd yn heidiau ond anaml y gwelir mwy na rhyw 30 gyda'i gilydd. Maent yn nythu mewn coed fel rheol.
Pryfed ac aeron yw eu prif fwyd. Yn y gaeaf maent yn aml yn amddiffyn coeden sy'n llawn o aeron, gan ymlid unrhyw aderyn arall sy'n ceisio eu bwyta. Mae'n aderyn cyffredin yng Nghymru er ei fod yn llai adnabyddus na'r Fronfraith.