Bryniau Mendip
Oddi ar Wicipedia
Cadwyn o fryniau calchfaen yng ngogledd Gwlad yr Haf yw'r Bryniau Mendip. Mae'r calchfaen wedi erydu mewn mannau i greu ceunentydd. Yr enwocaf o'r rhain yw Ceunant Cheddar a Burrington Combe. Man ucha'r bryniau yw Beacon Batch ar Black Down gydag uchder o 325m uwchben lefel y môr. Mewn rhai ardaloedd mae'r calchfaen yn cynnwys haenau mwynau plwm a sinc. Cafodd y plwm ei fwyngloddio o'r cyfnod Rhufeinig hyd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Prif ddinasoedd a threfi'r ardal yw Cheddar, Shepton Mallet a Wells.
[golygu] Daearyddiaeth
[golygu] Hanes
Lleolir Wookey Hole, safle archaeolegol o Oes y Cerrig, ym Mryniau Mendip.