Buenos Aires
Oddi ar Wicipedia
Buenos Aires (enw llawn yn Sbaeneg: Ciudad Autónoma de Buenos Aires) yw prifddinas Ariannin. Gyda'r ardal o'i chwmpas, Gran Buenos Aires, hi yw'r ail ddinas o ran maint yn Ne America.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Daearyddiaeth
Saif Buenos Aires ar lan y Río de la Plata, 34º 36' i'r de a 58º 26' i'r gorllewin. Mae'r hinsawdd yn gymhedrol oherwydd dylanwad y môr; y mis oeraf yw Gorffennaf gyda thymheredd rhwng 3º a 8º, ond mae rhew ac eira yn anarferol. Yn yr haf gellir cyrraedd tymheredd o tua 28º. Ceir 1,146 mm. o law y flwyddyn ar gyfartaledd.
[golygu] Poblogaeth
Yn ôl cyfrifiad 2001 roedd poblogaeth y ddinas yn 2,776,138, ond mae poblogaeth Gran Buenos Aires yn 11,460,575.
[golygu] Hanes
Sefydlwyd y ddinas yn 1536 gan Pedro de Mendoza, a'i hail-sefydlu yn 1580 gan Juan de Garay. Yn 1776 dewiswyd y ddinas yn brifddinas y Virreinato del Río de la Plata.
[golygu] Cysylltiadau allanol
Taleithiau'r Ariannin | |
---|---|
Dinas Ffederal | Buenos Aires | Catamarca | Chaco | Chubut | Córdoba | Corrientes | Entre Ríos | Formosa | Jujuy | La Pampa | La Rioja | Mendoza | Misiones | Neuquén | Río Negro | Salta | San Juan | San Luis | Santa Cruz | Santa Fe | Santiago del Estero | Tierra del Fuego, Antarctica ac Ynysoedd y De Iwerydd | Tucumán |