Buwch
Oddi ar Wicipedia
Gwartheg | ||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
![]() |
||||||||||||||||
Dosbarthiad gwyddonol | ||||||||||||||||
|
||||||||||||||||
Enw deuenwol | ||||||||||||||||
Bos taurus Linnaeus, 1758 |
Anifail dof yw buwch (lluosog buchod). Maent yn cael eu magu am eu llefrith a'u cig. Tarw yw enw'r gwryw, a llo yw'r epil. Gelwir anifail gwryw sydd wedi ei ysbaddu yn fustach. Mae'r enw lluosog gwartheg yn cwmpasu'r cwbl, yn wryw, benyw ac epil.
[golygu] Ych
Fe ddefnyddir gwartheg (gwrywaidd gan amlaf) at waith tynnu ar ffermydd, er bod yr arfer hwn wedi dod i ben i raddau helaeth yng Nghymru a gweldydd datblygedig eraill yn sgil dyfodiad y tractor. Gelwir bustach sydd wedi ei fagu at waith tynnu yn ych. Fe ddefnyddir ychen i aredig, i dynnu trol, cert, coed neu lwyth arall ac i weithio pwmp dŵr i ddyfrhau.
Gan amlaf defnyddir dau ych i weithio ar y cyd. Fe roddir iau ar eu gwarau fel bod y gwaith tynnu yn cael ei rannu ar draws eu hysgwyddau. Dewisir ychen â chyrn ganddynt at y gwaith fel bod modd defnyddio’r cyrn i gadw’r iau yn ei le pan fydd yr ychen yn arafu, yn cerdded am yn ôl neu yn gostwng eu pennau.