Byddin yr Unol Daleithiau
Oddi ar Wicipedia
Llu arfog Unol Daleithiau America gyda dyletswydd dros weithredoedd milwrol ar dir yw Byddin yr Unol Daleithiau (Saesneg: United States Army). Caiff ei reoli gan Adran y Fyddin – rhan o Adran Amddiffyn yr Unol Daleithiau – a bennir gan Ysgrifennydd y Fyddin. Creuwyd y Fyddin gan Gyngres ar 3 Mehefin, 1784 yn dilyn diwedd Rhyfel Annibyniaeth America fel olynydd i'r Fyddin Gyfandirol a fu'n ymladd yn y rhyfel i ennill annibyniaeth.