C.P.D. Llangefni
Oddi ar Wicipedia
C.P.D. Tref Llangefni | |||||||||||||||||||||||||||||||||
![]() |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Enw llawn | Clwb Pêl-droed Tref Llangefni | ||||||||||||||||||||||||||||||||
Llysenw(au) | Cefni | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Sefydlwyd | 1897 | ||||||||||||||||||||||||||||||||
Maes | Lon Talwrn, Llangefni, Ynys Mon | ||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynhwysedd | |||||||||||||||||||||||||||||||||
Cadeirydd | Gwynfor Parry | ||||||||||||||||||||||||||||||||
Rheolwr | Bryan Owen (Dros Dro) | ||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynghrair | Cynghrair Cymru | ||||||||||||||||||||||||||||||||
2006-07 | 1af (Cynghrair Undebol) | ||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Mae Clwb Pêl-droed Llangefni yn Glwb Pêl-droed sy'n chwarae yn Uwchgynghrair Cymru ar ol enill Cynghrair Undebol Gogledd Cymru yn 2006/2007.
Fe gafwyd tymor cythryblus tu hwnt yn ystod 2007/08 lle gwelwyd Adie Jones, a oedd yn arfer rheoli Bae Colwyn a Caernarfon yn cael ei ddiddymu o'i swydd, ac yna'r rheolwr newydd ond yn parhau yn y swydd am Fis. Mae'r Clwb yn gweld ei hun fel un uchelgeisiol, a bwriad y clwb ers sawl tymor oedd ddyrchafiad i'r Uwchgynghrair. Er mwyn gwireddu hyn, mae'r clwb bellach yn chwarae ar Gae Bob Parri, sydd ger gyrion y dref. Fe gafwyd gem yn erbyn Manchester United yn 2004 i nodi ei agoriad swyddogol.
[golygu] Hanes
Mae Peldroed wedi bod yn cael ei chwarae yn y Dref ers 1892 pan oedd gan y Capel leol dim, ond yn 1897 ffurfwyd y clwb presennol.
Fe ymunodd y Clwb a'r Cynghrair Undebol yn 1999/2000. Ers hynny mae'r clwb wedi dod yn agos i ddyrchafiad sawl gwaith. Yn 2000/01 gorffennodd y clwb yn ail i Gaernarfon ac yn 2001/02 i'r Trallwng. Roedd y clwb ar frig y Gynghrair am fwyafrif tymor 2004/05 ond fethon nhw allan ar ddyrchafiad wedi cyfnod sal ar ddiwedd y tymor. Ar ol blwyddyn neu ddwy siomedig, daeth y clwb yn ol yn 2006/07 i enill y bencampwriaeth, a dyrchafiad i'r Cynghrair Cenedlaethol.
[golygu] 2007-08
Mae wedi bod yn dymor hynod siomedig i'r Clwb hyd yn hyn, gyda dau reolwr gwahanol yn cael eu diddymu. Cafodd Adie Jones ei ryddhau oherwydd canlyniadau siomedig, ac Alex Kevan (oedd ond yn y swydd am fis) ei ddiddymu oherwydd pryderon am nifer y Chwaraewyr o gyffuniau Lerpwl oedd ar fin arwyddo. Rheolwr-Gyfarwyddwr y Clwb, Bryan Owen, sydd yn rheoli'r tim cyntaf tan ddiwedd y tymor, er ei fod yn edrych yn bur debyg bydd yn clwb yn disgyn yn ol i'r Cynghrair Undebol ar ol un tymor.
Cynghrair Cymru, 2007-2008 | ||
---|---|---|
Tref Aberystwyth | Airbus UK | Dinas Bangor | Tref Caerfyrddin | Tref Caernarfon | Caersws | Castell Nedd | Derwyddon Cefn NEWI | Y Drenewydd | Llanelli | Llangefni | Nomadiaid Cei Connah | Port Talbot | Porthmadog | Sir Hwlffordd | Y Rhyl | Y Seintiau Newydd | Y Trallwng |