Cadfan ap Iago
Oddi ar Wicipedia
Cadfan ap Iago (c. 580–625) (Lladin: Catamanus); Brenin Gwynedd o tua 615 hyd ei farwolaeth yn 625.
Yr oedd Cadfan yn fab i Iago ap Beli, ac mae'n debygol iddo ddod yn frenin Gwynedd ar farwolaeth ei dad tua 615, yn fuan ar ôl Brwydr Caer pan orchfygwyd byddin Powys a Gwynedd gan y brenin Aethelfrith o deyrnas Northumbria.
Ystyrid Cadfan yn frenin doeth a chyfiawn, yn nodedig am ei allu i gynnal cyfraith a heddwch mewn cyfnod cythryblus. Mae ei garreg fedd i'w gweld yn eglwys Llangadwaladr ar Ynys Môn, nepell o safle'r llys brenhinol yn Aberffraw. Mae'r arysgrif ar y garreg yn cyfeirio ato fel "Catamanus rex sapientisimus opinatisimus omnium regum" (="Y Brenin Cadfan, y doethaf a'r enwocaf o'r holl frenhinoedd"). Dilynwyd ef gan ei fab Cadwallon.