Caerwysg
Oddi ar Wicipedia
Dinas yn ne-orllewin Lloegr yw Caerwysg (Saesneg: Exeter), canolfan weinyddol Dyfnaint. Saif ar lannau Afon Wysg (Saesneg: Exe).
Mae Eglwys Gadeiriol Caerwysg yn enwog am ei phensaernïaeth Gothig ac yn dyddio o'r 13eg ganrif. Yn llyfrgell yr eglwys gadeiriol cedwir llawysgrif ganoloesol sy'n cynnwys y testun Lladin Cronica de Wallia ('Cronicl Cymru'), fersiwn o Frut y Tywysogion.