Calendr
Oddi ar Wicipedia
Mae Calendr yn system o fesur amser lle mae'r uned lleiaf yw dydd.
Yng Nghymru a dros rhan fwyaf o'r byd fe ddefnyddir Y Calendr Gregoraidd sydd wedi ei seilio ar symudiadau'r haul ac sy'n rhannu amser mewn i flynyddoedd o 365 neu 366 o ddyddiau. Mae 12 mis i bob blwyddyn, pob mis gyda rhwng 28 a 31 o ddyddiau. Mae wythnos wedi creu o 7 dydd, gyda pedwar neu fwy o wythnosau mewn mis. Sail y Calendr Gregoraidd yw Y Calendr Iwliaidd a sefydlwyd gan Iwl Cesar. Mae'r Calendr Gregoraidd ag iddo gwreiddiau Cristnogol. Cyfeirir at flynyddoedd 'Cyn Crist' (CC) ac 'Oed Crist' (OC). Mae rhai grwpiau - yn arbennig rhai o ddiwyliant anghristnogol - yn cyfeirio ato fel Calendr yr Oes Cyffredin ac yn defnyddio CE (o'r Saesneg, "Common Era") yn lle OC a BCE (o'r Saesneg, "Before Common Era") yn lle CC.
Mae yna galendrau eraill sydd mewn defnydd eang, yn cynnwys Y Calendr Iddewig a'r Calendr Mwslemaidd. Mae yna hefyd calendrau at ddefnyddiau arbennig, fel crefydd neu'r byd ariannol. Mae rhai calendrau wedi seilio ar symudiadau'r lleuad.
Defnyddir y gair calendr hefyd i ddynodi gwrthrych sy'n dangos manylion y calendr - e.e. calendr wal traddodiadol wedi ei wneud o bapur.