Canu gwerin
Oddi ar Wicipedia
Defnyddir y term Canu Gwerin fel arfer i olygu caneuon a genir gan y werin, caneuon sy'n perthyn i'r gymuned gyfan ac nid i arbenigwyr cerddorol, ac sy'n cael eu trosglwyddo ar lafar yn hytrach nag ar bapur. Fel arfer does neb yn gwybod pwy yw awdur/cyfansoddwr cân werin.
Gellir felly dosrannu canu gwerin i Ganu Gwerin Traddodiadol ac i Ganu Gwerin Modern. Mae Meredydd Evans yn enghraifft o ganwr gwerin traddodiadol.
Sefydlwyd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn 1906. Y mae'r Gymdeithas yn cyhoeddi cylchgrawn, Canu Gwerin, ac yn cynnal darlithiau a chynadleddau yn rheolaidd. Gweler ei gwefan: [1].
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.