Cartimandua
Oddi ar Wicipedia
Roedd Cartimandua (neu Cartismandua (teyrnasodd o tua 43 - 69) yn frenhines y Brigantes, llwyth Celtaidd yng ngogledd Lloegr.
Daw'r wybodaeth am Cartimandua o weithiau'r hanesydd Rhufeinig Tacitus. Mae Tacitus yn sôn amdani gyntaf yn y flwyddyn 51, ond roedd eisoes wedi bod mewn grym am rai blynyddoedd cyn hynny. Gwnaeth hi a'i gŵr, Venutius, gynghrair â'r Rhufeiniaid a pan ffôdd Caradog at y Brigantes wedi iddo gael ei orchfygu gan Publius Ostorius Scapula tua'r flwyddyn 51, cymerodd ef yn garcharor a'i drosglwyddo i'r Rhufeiniaid.
Rywbryd wedyn, ysgarodd Cartimandua ei gŵr Venutius, a chymerodd ei gludydd arfau, Vellocatus, yn ei le. Datblygodd rhyfel rhyngddi hi a Venutius. Pan ymosododd Venutius ar ei theyrnas yn y flwyddyn 57, cafodd Cartimandua gefnogaeth y Rhufeiniad, a yrrodd filwyr i'w hamddiffyn.
Ym Mlwyddyn y Pedwar Ymerawdwr. 69 OC., manteisiodd Venutius ar yr anghydfod ymhlith y Rhufeiniaid i ymosod eto. Y tro hwn cipiodd y deyrnas, a ffôdd Cartimandua at y Rhufeiniaid. Nid oes cofnod pellach amdani.