Cassiodorus
Oddi ar Wicipedia
Hanesydd ôl-Rufeinig (neu Fysantaidd) a gwladweinydd oedd Flavius Magnus Aurelius Cassiodorus Senator neu Cassiodorus (c.490 - c.580), a aned yn Scyllaceum (Squillace heddiw) yn Nghalabria, de'r Eidal. Roedd Cassiodorus yn weinidog ac ymghynghorwr i Theodoric Fawr, brenin y Ostrogothiaid yn yr Eidal, ac yn nes ymlaen yn brif weinidog i'w olynydd y Frenhines Amalasontha.
Tua'r flwyddyn 540 ymddeolodd Cassiodorus o fywyd cyhoeddus er mwyn cysegru gweddill ei ddyddiau i lenydda ac astudio. Sefydlai fynachlog yn Vivarium ar arfordir y Môr Ionaidd a hyrwyddai'r gwaith o gopïo llawysgrifau Clasurol. Ei brif gyfraniad i lenyddiaeth yw ei wyddoniadur ar ddysg a'r Saith Celfyddyd a baratowyd ar gyfer ei fynachod, sef yr Institutiones divinarum et saecularium litterarum. Daeth y llyfr yn waith safonol yn yr Oesoedd Canol a astudid ledled Ewrop. Cyfansoddodd yn ogystal hanes y Gothiaid sydd ar goll bellach ond yn adanbyddus i ni diolch i'r crynodeb ohono a wnaed gan yr ysgolhaig Jordanes (fl. 6ed ganrif).
[golygu] Gwaith
- Laudes (drylliau o folawdau)
- Chronica - Hanes y byd hyd 519 sy'n cyfuno hanes Rhufain a hanes y Gothiaid
- Hanes y Gothiaid (526-533)
- Variae epistolae (537), papurau Theodoric; S.J.B. Barnish Cassiodorus: Variae (Lerpwl: University Press, 1992) ISBN 0-85323-436-1
- Exposition psalmorum
- De anima ("Ar yr Enaid") (540)
- Institutiones Divinarum et Saecularium Litterarum (543-555)
- De Artibus ac Disciplinis Liberalium Litterarum
- Codex Grandior (fersiwn o'r Beibl)
[golygu] Llyfryddiaeth
- James J. O'Donnell, Cassiodorus (1979)