Catrin Howard
Oddi ar Wicipedia
Catrin Howard (tua 1520-1525 - 13 Chwefror, 1542) oedd brenhines Lloegr o 1540 hyd ei marwolaeth a phumed gwraig Harri VIII o Loegr. Cafodd ei dienyddio trwy dorri ei phen ar orchymyn ei ŵr yn Chwefror, 1542, ar ôl i Thomas Cranmer ei chael yn euog ar gyhuddiad o gael perthynas rhywiol cyn priodi. Cafodd Harri a Catrin Howard briodas bersonol.