Cefn Sidan
Oddi ar Wicipedia
Traeth yn Sir Gaerfyrddin yw Cefn Sidan. Mae'n ymestyn am saith milltir rhwng aber Afon Gwendraeth ac Afon Llwchwr, ac yn rhan o Barc Gwledig Penbre ger Llanelli.
Yn y 19eg ganrif roedd y traeth yma yn beryglus iawn i logau hwyliau, a bu llawer o longddrylliadau yma. Ymhilith y rhai a foddwyd yma roedd nith i Napoleon. Erbyn hyn mae'r traeth tywodlyd yn atyniad i ymwelwyr.