Ceinmeirch
Oddi ar Wicipedia
Un o dri chwmwd cantref Rhufoniog, gogledd-ddwyrain Cymru, yn yr Oesoedd Canol oedd Ceinmeirch (a adnabyddir hefyd fel Cymeirch ac weithiau fel Cwmwd Ystrad).
Gorweddai Ceinmeirch yn ne-ddwyrain cantref Rhufoniog yn y Berfeddwlad rhwng Afon Lliwen ac Afon Clywedog, gan godi o ochr orllewinol Dyffryn Clwyd i gyfeiriad ardal Mynydd Hiraethog.
Ffiniai ag Is Aled yn Rhufoniog i'r gorllewin a chwmwd Colion a rhan o gwmwd Dogfeiling yng nghantref Dyffryn Clwyd i'r dwyrain.
Lleolwyd llys y cwmwd yn Ystrad Owen, lle daw ffrwd fechan i lawr i Afon Ystrad, tua 2 filltir i'r de o dref Dinbych heddiw. Yna y ceid Llys Gwenllian, o fewn mwnt a beili gyda maerdref gerllaw. O Lys Gwenllian rhedai'r Lôn Werdd (y Greenway ar fap yr Ordnans) yn llinyn syth i eglwys Llanrhaeadr.[1]
Yn ddiweddarach daeth yn rhan o Arglwyddiaeth Dinbych ac yna'r hen Sir Ddinbych ac wedyn Clwyd. Heddiw mae'r rhan fwyaf o'r hen gwmwd yn gorwedd yn Sir Ddinbych gyda rhan fechan ym mwrdeistref sirol Conwy.
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ Glanville Jones, 'Medieval Settlement', yn The Archaeology of Clwyd (Cyngor Sir Clwyd, 1991), tud. 194.