Celfyddyd
Oddi ar Wicipedia
Mae maes celfyddyd (a dalfyrir weithiau fel celf) yn cynnwys campweithiau gweledol o ganlyniad i fedr dynol, sef paentio, darlunio, cerfluniaeth, a phensaernïaeth. Weithiau ehangir y term fel y celfyddydau sy'n cynnwys yr holl bethau o dan sgiliau bodau dynol, fel llenyddiaeth (rhyddiaith, barddoniaeth ac ati), cerddoriaeth a dawns, y theatr, a ffotograffiaeth. Mae estheteg yn faes athronyddol sy'n ceisio ateb cwestiynau megis "beth yw celf?".
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.