Chwarel Pantdreiniog
Oddi ar Wicipedia
Chwarel lechi gerllaw Bethesda yng Ngwynedd oedd Chwarel Pantdreiniog.
Agorodd y chwarel tua 1825 gan bobl leol. Bu am gyfnod yn eiddo Overend, Gurney & Co, yna i John Williams, adeiladydd o Moss Bank, Lerpwl, fu'n ei gwithio am tua deugain mlynedd. Yn gynnar yn y 1890au gwerthodd ef y chwarel i gwmni o Gaerdydd, yna yn 1903 gwerthwyd y safle i gwmni o Lundain oedd wedi ei ffurfio i roi gwaith i chwarelwyr oedd ar streic yn ystod y Streic Fawr yn Chwarel y Penrhyn. Ni fu erioed yn chwarel fawr; yn 1882 cynhyrchwyd 245 tunnell o lechi gan 13 o weithwyr. Caewyd y chwarel yn 1911.
Yn 1915 ceisiodd y Minerals, Oil & General Exploration Company, Limited o Lundain, ail-agor y chwarel, gyda W. J. Parry, Coetmor fel asiant lleol, ond nid ymddengys iddynt lwyddo. Nid oes dim i'w weld ar y safle bellach.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Richards, Alun John (1991) A gazetteer of the Welsh Slate industry (Gwasg Carreg Gwalch) ISBN 0-86381-196-5