Cilmeri
Oddi ar Wicipedia
Pentref gwledig ym Mhowys yw Cilmeri. Mae hefyd yn enw ar y llecyn gerllaw lle cwympodd Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, ar 11 Rhagfyr, 1282. Codwyd cofeb i'r tywysog yn 1956 gan wladgarwyr Cymreig i ddynodi'r man lle y'i lladdwyd. Ers hynny mae'r gofeb yn denu nifer o ymwelwyr ar 11 Rhagfyr, Diwrnod Llywelyn Ein Llyw Olaf, i dalu teyrnged i Lywelyn.
Mae Cilmeri yn enw ar awdl a chyfrol o gerddi nodedig gan y prifardd Gerallt Lloyd Owen yn ogystal (Cilmeri a cherddi eraill, Gwasg Gwynedd, 1991).