Cleddyfa
Oddi ar Wicipedia
Cleddyfa yw crefft ymladd efo cleddyf. Datblygodd yn wreiddiol ar faes brwydyr, ac wedyn fel ffordd i amddiffyn eich anrhydedd mewn gornest (yn aml iawn hyd at farwolaeth un o'r gornestwyr). Bellach mae pobl yn cleddyfa, mor ddifrifol ac o'r blaen ond heb fwriadu lladd neu anafu neb, fel chwarae neu i archwilio ffurfiau hanesyddol o groesi cleddyfau.
Bydd yr erthygl yma yn canolbwyntio ar gleddyfa fel chwarae modern gorllewinol, ond yn són hefyd am gleddyfa hanesyddol a chleddyfa dwyreiniol.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Cleddyfa Chwarae Modern
Tri math o gleddyf sy'n cael eu ddefnyddio heddiw: ffwyl, cleddyf blaenbwl (épée) a sabr. Mae'r rheolau'r tri math o gleddyfa yn gwahanol ond yn gysylltiedig yn agos.
[golygu] Pethau cyffredinol
Mae gornest cleddyfa yn digwydd ar piste, sef man hir a chul, rhwng ddau gleddyfwr. Nod y gornest yw taro eich gwrthwynebwr heb gael eich taro eich hun. Rydych chi'n sgorio pwynt am drawiad cywir, ac fel arfer mae'r gornest yn mynd nes i'r cyntaf cyrraedd 5 pwynt (ond weithiau 10 neu 15 yw'r cyfanswm).
Mae'r ddau gleddyfwr yn gwisgo siwt gwyn, gan gynnwys masg, maneg (i law y cleddyf yn unig), siaced a plastron (siaced bach sy'n mynd o dan y prif siaced i roi amddyfiniad ychwanegol i'r corff), trowsus penglin, sannau hirion a sgidiau. Fel arfer mewn cystadleuaeth defnyddir offer trydanol i gadw'r sgor, felly mae rhaid i'r cleddyfwyr wisgo gwifrau o dan y siaced hefyd.
[golygu] Ffwyl
Y cleddyf ysgafnaf, datblygodd y ffwyl (Ffrangeg: florette, Saesneg: foil) yn wreiddiol fel erfyn hyffordiant.
[golygu] Cleddyf blaenbwl
Mae'r cleddyf blaenbwl (Ffrangeg/Saesneg: épée) yn edrych ar yr olwg gyntaf fel fersiwn mwyach a drymach y ffwyl.
[golygu] Sabr
Yn gwahanol i'r ddau gleddyf arall, sy'n scorio efo'r pwynt yn unig, mae'r sabr yn defnyddio min y llafn hefyd. O achos hyn, mae ei dechneg yn eitha gwahanol.
[golygu] Cleddyfa Hanesyddol
Datblygodd y clefydd main (rapier) a'r cleddyf bychain allan o glefyddau cynharach ac yn eu tro datblygodd i mewn i'r ffwyl a cleddyf blaenbwl modern.
Datblygwyd Cleddyfa Chwarae oddiwrth sawl math gwahanol o gleddyfa hanesyddol drwy Ewrop, pob un â'i nodweddion cenedlaethol ei hun. Yn ogystal ag amrywio rhwng gwledydd, mae nodweddion cleddyfa hanesyddol yn newid rhwng gwahanol oesa, megis y Canol Oesoedd, y Dadeni Dysg, a'r Cyfnod Modern Cynnar. Y Canol Oesoedd yw'r adeg y mae gennym yr archifau cynharaf ar gleddyfa hanesyddol orllewinol ("Historical Western Martial Arts"), yn dechrau gyda'r testun I.33 o'r Almaen.
Ers diwedd yr Ugeinfed Ganrif, y mae diddordeb mewn ail-greu Cleddyfa Hanesyddol o'r testunau gwreiddiol wedi cynyddu, gyda chymorth twf y rhyngrwyd. Mae yna nifer o grwpiau drwy'r byd yn ymddiddori mewn gwahanol arfau, adegau a thechnegau. Ym Mhrydain, mae nifer ohonynt yn cwrdd o dan faner y Ffederasiwn Cleddyfa Hanesyddol Brydeinig (BFHS), sydd yn cwrdd ddwywaith y flwyddyn, ac yn hybu rhannu gwybodaeth yn gorfforol ac yn ddamcaniaethol.
Ar hyn o bryd, nid oes wybodaeth am unrhyw femrwn ar gleddyfa hanesyddol Gymraeg ar wahan i'r testun y Pedwar Camp ar Hugain, yr hwn ag ymyrrwyd ynddi gan Iolo Morganwg yn y ddeunawfed ganrif (gweler Pedair Camp ar Hugain)
[golygu] Cleddyfa Dwyreiniol
Datblygodd cleddyfau a chleddyfa yn gwahanol iawn yn y gorllewin ac yn y dwyrain.
Cafodd y clefydd lle pwysig iawn yn niwylliant Japan, fel prif erfyn y samurai. Mae sawl crefft ymladd Japanaidd ynglŷn á'r cleddyf, e.e. kendo, iaijutsu. Caiff o le pwysig mewn crefftau megis aikido hefyd.