Clough Williams-Ellis
Oddi ar Wicipedia
Pensaer o Gymru oedd Syr Bertram Clough Williams-Ellis (ganwyd 28 Mai 1883 yn Swydd Northampton, Lloegr a bu farw 9 Ebrill 1978). Mae'n enwog am gynllunio'r pentref Eidalaidd Portmeirion ac fe'i urddwyd yn farchog ym 1971.
Er iddo gael ei eni yn Lloegr, roedd ei deulu'n dod o Gymru a magwyd ef yng Nglasfryn, Pwllheli ers yn 4 oed. Yr oedd yn fab i'r parchedig John Clough Williams-Ellis. Mynychodd Goleg y Drindod, Caergrawnt am gyfnod byr cyn mynd ymlaen i astdio pensaerniaeth am 3 mis yn Ysgol y Sefydliad Pensaernïaeth yn Llundain. Roedd practis preifat ganddo o 1905 hyd 1914 ac ar ôl y Rhyfel y Byd Cyntaf o 1919 i 1978. Etifeddodd dŷ ei gyndadau, Plas Brondanw ger Llanfrothen ym Meirionnydd ym 1908 a phentref Portmeirion yn ystod y cyfnodau 1926-1939 a 1954-1972. Golygodd adeiladu Portmeirion gyflawni breuddwyd mawr iddo. Dangosodd i'r bobl bod datblygiad safle naturol yn bosib heb ddinistrio'r amgylchedd a harddwch yr ardal.
Ym 1915 priododd ag Amabel Strachey a chawson nhw 3 o blant. Yn ystod y Rhyfel y Byd Cyntaf roedd yn y Gwarchodlu Cymreig ac enillodd Croes Filitaraidd.