Commodus
Oddi ar Wicipedia
Marcus Aurelius Commodus Antoninus (31 Awst 161 - 31 Rhagfyr 192) oedd ymerawdwr Rhufain o 180 hyd 192.
Yr oedd yn fab i Marcus Aurelius ac yr oedd ganddo efaill, Antoninus, a fu farw yn bedair oed, a chwaer, Galeria Lucilla. Gwnaeth ei dad ef yn gyd-ymerawdwr yn 177. Pan fu farw Marcus Aurelius yn 180, dilynodd Commodus ef ar yr orsedd. Ar y dechrau yr oedd yn boblogaidd, gan fod llawer o barch i'w dad, ond yn fuan gwelwyd fod Commodus yn fath gwahanol ar ymerawdwr. Rhoddodd rym i ffrindiau llwgr, a chynothwyodd hwy i ddwyn arian oddi ar y wladwriaeth. Yr oedd yn arbennig o hoff o ymladdfeydd gladiator a byddai'n ymladd yn yr arena ei hun yn erbyn gwrthwynebwyr oedd wedi cael cyffuriau i'w hatal rhag ymladd yn iawn neu oedd heb eu harfogi'n llawn. Gwnaeth hyn ef yn amhobolgaidd iawn gyda haenau uwch cymdeithas. Dywedir iddo orchymyn lladd y cyfan o boblogaeth un dref oherwydd ei fod yn credu fod un person wedi edrych yn gas arno, a chyhoeddodd ei hun yn dduw gyda'r enw Hercules Romanus.
Yn 192 distrywiwyd rhan o ddinas Rhufain gan dân, a chymerodd Commodus y cyfle i gyhoeddi ei fod yn ei hail-sefydlu dan yr enw Colonia Commodiana. Ychydig yn ddiweddarach bu cynllwyd yn ei erbyn, a thagwyd ef tra'r oedd yn cysgu gan gaethwas o'r enw Narciso. Dilynwyd ef gan Pertinax. Ar ôl ei farw cyhoeddodd Senedd Rhufain y damnatio memoriae. Seilir y ffilm Gladiator (2000) yn rhannol ar fywyd Commodus.