Copenhagen
Oddi ar Wicipedia
Copenhagen (Daneg København) yw prifddinas Denmarc a'i phrif borthladd, ar arfordir dwyreiniol Sjælland ar lan y Môr Baltig gyferbyn â Malmö yn Sweden.
[golygu] Hanes
Roedd trigfan yn Copenhagen mor gynnar â dechrau'r 9fed ganrif. Yn y flwyddyn 1443 daeth yn brifddinas Denmarc.
[golygu] Atyniadau
Mae'r adeiladau nodedig yn cynnwys Palas Charlottenborg (17eg ganrif: Academi Frenhinol y Celfyddydau Cain heddiw) a Palas Christiansborg sy'n gartref i swyddfeydd senedd Denmarc heddiw. Cedwir nifer o drysorau o'r gorffennol yn Amgueddfa Genedlaethol Denmarc, a leolir yn y ddinas, yn cynnwys rhai o longau'r Llychlynwyr a Phair Gundestrup.