Cronfa Nant-y-Moch
Oddi ar Wicipedia
Cronfa ddŵr yng Ngheredigion yw Cronfa Nant-y-Moch, ychydig i'r gorllewin o gopa Pumlumon. Ffurfiwyd y gronfa, sydd ag arwynebedd o 66.8 cilomedr sgwar, yn 1964 trwy adeiladu argae ar draws Afon Rheidol. Saif yr argae rhyw dair milltir i'r gogledd o bentref Ponterwyd.
Adeiladwyd y gronfa fel rhan o gynllun trydan dŵr Cwm Rheidol. Boddwyd pentref bychan Nant-y-Moch, a symudwyd y cyrff o'r fynwent i fynwent Ponterwyd. Symudwyd nifer o garneddi o Oes yr Haearn hefyd.