Culfor Messina
Oddi ar Wicipedia

Culfor Messina o'r gofod: Sisili ar y chwith a Calabria ar y de
Culfor neu sianel sy'n gorwedd rhwng Calabria yn ne'r Eidal ac ynys Sisili yng nghanol y Môr Canoldir yw Culfor Messina. Fe'i enwir ar ôl dinas Messina, gogledd-ddwyrain Sisili, sy'n wynebu Reggio di Calabria ar y tir mawr. Dim ond 3km (2 filltir) yw'r culfor ar ei gyfyngaf.
Credir fod y creigiau miniog a geir ar yr ochr Calabriaidd a'r trobwll ffyrnig ar yr ochr Sisiliaidd yn sail i chwedl Scylla a Charybdis.