Cwm Sgwt
Oddi ar Wicipedia
Cwm Sgwt - Enw doniol, os nad dirmygus ar ardal, dref neu bentref Gymreig ddychmygol.
Lle nad oes unrhyw hynodrwydd arbennig iddi a'i unig hynodrwydd ei fod yn lle 'cyffredin' Cymreig. Lle 'generig'.
Gellir ei ddefnyddio mewn cyd-destun tebyg i hyn:
'Beth fyddai Mrs Jones Cwm Sgwt yn meddwl o'r holl regi ar S4C?'
'Roedd Dulyn yn llawn o Gymry ar gyfer y gêm rygbi - Clwb Rygbi Cwm Sgwt ...'
Enwau eraill ar lefydd dychmygol Cymreig: Llanbidernodyn (enw ychydig yn fwy coch), Aberstalwm (lle hiraethus - cân Strydoedd Aberstalwm gan Bryn Fôn o'r un enw oddi ar albwm Dawnsio ar y Dibyn, Cwm Rhyd y Chwadods.