Cymru Fydd (drama)
Oddi ar Wicipedia
- Gweler hefyd Cymru Fydd (gwahaniaethu)
Trasiedi mewn tair act gan Saunders Lewis yw Cymru Fydd, a gyhoeddwyd yn 1967. Mae'r enw yn adlewyrchiad eirionig o'r mudiad gwleidyddol gwladgarol Cymru Fydd a weithiai dros hunanlywodraeth i Gymru ar ddiwedd y 19eg ganrif ac ar droad yr 20fed ganrif.
Mae'n drasiedi sy'n ymdroi o gwmpas argyfwng seicolegol Dewi, mab i weinidog sy'n fân leidr ac wedi troi ei gefn ar Gristnogaeth a Chymru.