Cynghrair y Cenhedloedd
Oddi ar Wicipedia
Corff cydwladol a greuwyd yn 1920, yn sgîl y Rhyfel Byd Cyntaf, gyda'r bwriad o sefydlu heddwch yn y byd oedd Cynghrair y Cenhedloedd. Cyfarfu am y tro cyntaf ar 10 Ionawr, 1920, yn Ngenefa yn y Swistir.
Ymgorfforwyd Cyfamod y Cynghrair (ei ddogfen sylfaenol) yn y cytundebau heddwch a wneid ar ôl y Rhyfel Mawr, ond gwrthodai'r Unol Daleithiau dderbyn Cytundeb Versailles ac mewn canlyniad cafodd ei throi allan o'r Cynghrair. Roedd hyn yn llesteirio gwaith y sefydliad o'r cychwyn cyntaf bron. Serch hynny, llwyddai'r Cynghrair i wneud gwaith pwysig yn datrys anghydfod, trefnu cyngresau rhyngwladol ar sawl pwnc a chyflawni gwaith hiwmanitaraidd.
Ond methodd y Cynghrair i ddelio â'r sefyllfa rhyngwladol a ddatblygai yn y 1930au, megis rhyfel Siapan yn Tsieina, yr Eidal yn Ethiopia ac yn bennaf oll achos yr Almaen, a dynnodd allan o'r Cynghrair yn 1933.
Cymerodd y Cenhedloedd Unedig le'r Cynghrair ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.