Cyngor Trent
Oddi ar Wicipedia
Cyngor Trent (1545 - 1547, 1551 - 1552, 1562 - 1563) oedd Deunawfed Gyngor Eciwmenaidd y Eglwys Gatholig, a alwyd gan y Pab Pawl III i wrthsefyll effeithiau'r Diwygiad Protestannaidd.
Fe'i cynhaliwyd dair gwaith rhwng 13 Rhagfyr, 1545 a 4 Rhagfyr, 1563 yn ninas Trent (Trento heddiw, yng ngogledd Yr Eidal) fel ymateb gan yr Eglwys Gatholig i'r bygythiad i'w hathraweth ddiwynyddol a'i hawdurdod eglwysig gan y Diwygiad Protestannaidd. Fe'i ystyrir yn un o'r cynghorau pwysicaf yn hanes yr Eglwys Gatholic. Ynddo gosodwyd allan yn eglur yr athrawaeth Gatholig ar iachawdwriaeth, y sagrafen, a'r canon Beiblaidd awdurdodedig. Penderfynwyd yn ogystal y canllawiau safonol am weinyddu'r Offeren, yn bennaf trwy ddileu amrywiadau lleol: gelwir hyn yn "Offeren Trent" (Tridentine Mass), o Tridentum, enw Lladin Trent. Condemniwyd dysgeidiaeth Martin Luther.