Dafydd Jones (Dewi Dywyll)
Oddi ar Wicipedia
Baledwr dall o Lanybydder, Sir Gaerfyrddin, oedd Dafydd Jones (Dewi Dywyll, hefyd Deio'r Cantwr a Dewi Medi) (1803 - 1868).
Daeth yn enwog am ei ganu ffraeth ledled Cymru mewn oes pan oedd canwyr baledi crwydr yn dal i fod yn gymeriadau poblogaidd. Roedd yn awdur o gwmpas 60 o faledi.