Dafydd Jones (Isfoel)
Oddi ar Wicipedia
Bardd Gwlad oedd Isfoel (1881 - 1968), yn enedigol o'r Cilie, ger Llangrannog, Ceredigion, ac yn un o Fois y Cilie (gweler Teulu'r Cilie).
Ffermwr a gof wrth ei grefft oedd Isfoel. Roedd yn fardd penigamp ar y mesurau caeth a rhydd fel ei gilydd, wedi ei fagu â'r awen yn ei waed.
[golygu] Llyfryddiaeth
Cyhoeddodd tair cyfrol o gerddi,
- Cerddi Isfoel (1958)
- Ail Gerddi Isfoel (1965)
- Cyfoeth Awen Isfoel (1984, gol. T. Llew Jones)
ac un gyfrol o ysgrifau,
- Hen Ŷd y Wlad (1966).