Daloni Metcalfe
Oddi ar Wicipedia
Cyflwynydd teledu a radio yw Daloni Metcalfe (ganwyd 9 Chwefror, 1968) sydd ar hyn o bryd yn cyflwyno rhaglen Ffermio ar S4C. Fe'i magwyd ar fferm fechan ym mhlwyf Llanrhychwyn yn Nyffryn Conwy, ynghanol defaid a gwartheg. Bu hefyd yn cadw merlen cob adran B am flynyddoedd. Bu hefyd yn aelod o Glwb Ffermwyr Ifainc Llanrwst.
Cafodd ei haddysg uwch ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, a daeth yn adnabyddus fel cyflwynydd ar Newyddion S4C a rhaglenni Heno a Wedi 7.
[golygu] Ffermio
Ers Ionawr 2005, mae Daloni yn un o gyflwynwyr y rhaglen Ffermio ar S4C sy'n darlledu bob nos Lun am 8.25pm. Ei chyd-gyflwynwyr ar y rhaglen yw Iola Wyn, Alun Elidyr a Mererid Wigley, ac fe gynhyrchir y rhaglen gan Teledu Telesgôp.
Mae Daloni bellach yn ffermio gyda'i gwr Wil a'u tri plentyn, Ifan, Lili a Robin yn Nhudweiliog ym Mhenrhyn Llyn, lle maen nhw'n cadw defaid a gwartheg masnachol. Mae Daloni ei hun newydd ddechrau cadw lloi Aberdeen Angus.