Darogan
Oddi ar Wicipedia
Dull cyfrin i ragweld y dyfodol yw darogan. Gelwir un sy'n medru daroganu yn ddaroganwr neu broffwyd (ond mae proffwyd yn derm sy'n tueddu i gael ei gyfyngu i draddodiadau crefyddol unduw, e.e. proffwydi'r Hen Destament.
[golygu] Y Celtiaid a'r Cymry
Roedd y Celtiaid ymhlith y pobloedd hynafol a ymddiddorai'n fawr mewn daroganu. Yng Nghymru'r Oesoedd Canol, roedd bri mawr ar ganu darogan a thestunau rhyddiaith proffwydoliaethol a (gweler brutiau). Ceir nifer o gerddi darogan a briodolir gan amlaf i feirdd o'r gorffennol, yn enwedig Taliesin, neu ffigurau chwedlonol fel Myrddin, ond roedd rhai o'r beirdd proffesiynol yn cyfansoddi cywyddau darogan hefyd.
[golygu] Gweler hefyd
- Augur, daroganwr o offeiriad yng ngrefydd Rhufain
- Canu Darogan
- Mab Darogan, gwaredwr disgwyliedig y Cymry