David Irving
Oddi ar Wicipedia
Mae David John Cawdell Irving (ganwyd 24 Mawrth 1938) yn honni bod yn hanesydd Ail Ryfel Byd ac mae yn awdur nifer o lyfrau. Ar adegau gwahanol, mae wedi ei wahardd o'r Almaen, Awstria, Canada, Awstralia, a Seland Newydd. Yn 1998, dechreuodd achos o enllib yn erbyn Deborah Lipstadt a'r cyhoeddwr Penguin am iddi ddweud yn ei llyfr bod Irving yn gwadu bodolaeth yr Holocost. Bu'r achos yn aflwyddiannus. Yn y 1970au roedd Irving yn cael ei dderbyn fel hanesydd awdurdodol ond yn dilyn yr achos hwn profwyd fod ei dystiolaeth yn wallus ac fe ddaethpwyd i ddeall fod ganddo agenda hiliol wrth ysgrifennu.
Ar 20 Chwefror, 2006, dedfrydwyd Irving i dair blynedd o garchar yn Awstria am wadu bodolaeth yr Holocost.